Cynulliad Cenedlaethol Cymru / National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad / Standards of Conduct Committee
Ymchwiliad i Lobïo / Inquiry into Lobbying
Ymateb gan y Comisiwn Etholiadol / Evidence from the Electoral Commission

Trosolwg

 

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i'r trefniadau presennol o ran lobïo yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a bydd yn cynnal ymgynghoriad o ran lobïo a'r trydydd sector.

 

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn chwarae rhan yn rheoleiddio ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau (a elwir hefyd yn ymgyrchwyr trydydd parti), mewn etholiadau. Ry'n ni'n cofrestru ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac yn rhoi canllawiau iddynt o ran rheoliadau ar eu gwariant a rhoddion perthnasol ar gyfer pob etholiad. O ganlyniad i'r rhan y mae'r Comisiwn yn chwarae yn rheoleiddio gwariant ymgyrchu, a bod rhai rhanddeiliaid yn cysylltu ymgyrchu o'r fath â'r term 'lobïo', mae'n bosib y bydd peth o'r adborth fydd y Pwyllgor yn ei dderbyn i'w wneud â'n rôl reoleiddiol ni. Mae’r nodyn cefndir hwn yn rhoi cyd-destun i hyn.

 

Deddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan rai nad ydynt yn bleidiau a Gweinyddiaeth Undebau Llafur 2014

 

Roedd Deddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu rhai nad ydynt yn bleidiau a Gweinyddiaeth Undebau Llafur 2014 ("Y Ddeddf Lobïo") yn ddiwygiad i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), sy'n cael ei rheoleiddio gan y Comisiwn Etholiadol. Daeth y Ddeddf i gael ei hadnabod fel "Y Ddeddf Lobïo", er mai dim ond un dair rhan o'r Ddeddf oedd yn ymwneud â rheoleiddio lobïo.

 

Roedd Rhan 1 y Ddeddf i wneud â gwahardd lobi ymgynghorwyr heblaw bod yr endidau hynny wedi eu cofrestru.

 

Roedd Rhan 2 y Ddeddf yn ymwneud â newid ac ehangu rhai o reoliadau gwariant PPERA ar ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, nad ydynt yn sefyll i'w hethol, ond

 

sydd yn gwario arian ar ymgyrchoedd i ddylanwadu canlyniadau etholiadau a dewis pleidleiswyr.

Gallwch weld y Nodiadau Esboniadol ynghylch Deddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu rhai nad ydynt yn bleidiau a Gweinyddiaeth Undebau Llafur 2014 yma:

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2014/4/notes/division/5/1

 

Rôl y Comisiwn Etholiadol a gwaith gydag Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau

 

Mae'r Comisiwn Etholiadol rheoleiddio gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau. Bwriad y gyfraith yw darparu tryloywder ynghylch gwariant pob math o ymgyrchwyr etholiad, yn ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol neu ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae hyn yn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu gweld beth mae ymgyrchwyr wedi gwario ar geisio dylanwadu ar ddewisiadau pleidleiswyr a chanlyniad etholiad, yn ogystal â phwy roddodd gyfraniad i'r ymgyrchoedd hynny. Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol cyn gwario mwy na'r trothwy a osodir mewn deddfwriaeth, ac ni ddylai fod yn fwy na'r terfyn gwario ar gyfer yr etholiad hwnnw. Mae'n rhaid i ymgyrchwyr gwblhau cofnod gwariant ar gyfer eu hymgyrch yn ystod cyfnod etholiad, a chaiff ei gyflwyno i'r Comisiwn.

 

Mae'n rhaid i ymgyrchwyr sicrhau bod unrhyw weithgareddau yn bodloni'r diffiniad o "ymgyrchu" mewn etholiadau, lle mae arian wedi ei wario i geisio dylanwadu ar ddewis pleidleiswyr, yn cael eu cynnwys gyda'r cofnod gwariant. Yna bydd y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi'r cofnodion gwariant i "CPE Ar-lein", sy'n gronfa ddata chwiliadwy sydd ar gael i'r cyhoedd archwilio[1].

 

I sicrhau bod ymgyrchwyr yn ymwybodol o'r rheolau sy'n rhaid iddynt eu dilyn, mae'r Comisiwn yn cyhoeddi canllawiau cyn pob etholiad. Mae hyn yn cynnwys sut a phryd i gofrestru fel ymgyrchydd, beth sy'n cyfri fel gwariant ymgyrchu a sut i adrodd gwariant ar ôl y bleidlais. Ry'n ni hefyd wedi cynnig sesiynau briffio ymgyrchwyr, i siarad gydag ymgyrchwyr cyn yr etholiadau ynghylch y rheolau sydd yn ein canllawiau.

 

Ymgynghoriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

 

Mae'r llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnwys cwestiynau megis, "Sut caiff lobïo ei reoleiddio ar hyn o bryd?". Mae'n bosib y gallai rhai ymatebwyr gysylltu'r ymholiad yma gyda phasio "Deddf Lobïo" yn hydref 2013, wnaeth gyflwyno cofrestru o lobïwyr ymgynghorol a newidiadau deddfwriaethol i reoleiddiad yn y DU o wariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cyn etholiadau. O ganlyniad, fe allai peth o'r adborth a dderbynnir gan y Pwyllgor gynnwys cyfeiriadau i'r newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf honno a'r swyddogaethau rheoleiddiol a gynhelir gan y Comisiwn.

 

Byddai'r Comisiwn Etholiadol yn croesawu cael gwybod am unrhyw adborth o'r ymgynghoriad sy'n cyfeirio at reolau a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda neu Ran 2 Deddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu rhai nad ydynt yn bleidiau a Gweinyddiaeth Undebau Llafur, gan gynnwys unrhyw swyddogaethau sy'n rhan o rôl reoleiddiol y Comisiwn.



[1] Caiff cofrestrau ymgyrchwyr, rhoddion, benthyciadau a gwariant eu cyhoeddi ar ein gwefan. Y Comisiwn Etholiadol, CPE Ar-lein, http://search.electoralcommission.org.uk